Sioe sengl yn Oriel Davies, Y Drenewydd
Cyflwyniad i'r arddangosfa gan Oriel Davies:

Mae 'Y bore hwnnw, gwyliodd y wawr yn torri' yn adlewyrchu profiadau personol Evans tra’n archwilio newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol ehangach yng nghefn gwlad Cymru. Mae llawer o’i waith wedi canolbwyntio ar ei allfudiad, o’i fagwraeth yng nghefn gwlad Ceredigion, i brifddinas Cymru Caerdydd i ddilyn gyrfa artistig. Mae’r gwaith yn defnyddio gwrthrychau a delweddau o ansawdd uchel sydd wedi cael eu darganfod ac sydd wedi cael eu cynhyrchu’n arbennig.

Mae Oriel Davies Gallery yn falch o gael cyflwyno sioe bwysig gyntaf o waith sydd newydd ei gomisiynu gan yr artist o Gymru, Carwyn Evans. Mae’r arddangosfa yn dod â cherfluniau, darluniau a gweithiau lens ynghyd i ddatgelu ei syniadau arloesol.

Mae’r artist yn defnyddio dull cerfluniol syml drwy ei waith mewn modd celfydd iawn, gan weithio â gwrthrychau a delweddau cyfredol a’r rheiny sydd wedi’u cynhyrchu’n benodol at y diben (yn aml yn grefftus iawn) i gyfeirio at ddealltwriaeth a phrofiadau personol ac, ar yr un pryd, archwilio newidiadau cymdeithasol a gwleidyddol ehangach yng Nghymru wledig. Mae pobl yn mudo yn ffenomen gyffredin drwy’r byd ac mae’n nodwedd amlwg iawn drwy hanes.

Mae pobl wedi symud o’u mamwledydd (pentrefi, trefi, dinasoedd neu wledydd) er mwyn gwireddu dyhead neu ddod o hyd i waith i gynnal eu hunain, eu teuluoedd neu eu cymunedau. Mae hyn yn arwain at shifftiau parhaol yng nghyfansoddiad a hunaniaeth gwledydd, dinasoedd, trefi a chymunedau gwledig. Mae llawer o ymarferiad Evans wedi canolbwyntio ar y newid yn ei fywyd, o’i fagwraeth yng nghefn gwlad Ceredigion i fywyd ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, er mwyn dilyn ei yrfa artistig. Mae Y bore hwnnw, gwyliodd y wawr yn torri yn adeiladu ar yr archwilio hwnnw, gan adlewyrchu ar yr effaith a gafodd ei ymadawiad, y gwagle a adawyd ar ei ôl (yn gorfforol ac yn ddiwylliannol), a goblygiadau newid. Ar yr un pryd, mae’r sioe yn cwmpasu gwaith sy’n rhoi llais i unigolion sydd wedi symud yn ddiweddar i famwlad yr artist, gan ganiatáu gofod i bersbectif arall.

Mae catalog llawn lluniau gyda thraethodau gan yr artist a'r curadur, Louise Short a'r ysgrifennydd Mike Parker yn cyd-fynd â'r arddangosfa.

180 x 240cm. 52 tudalen. Clawr papur
ISBN 978 1 870797 50 7
Cyhoeddwyd gan Oriel Davies Gallery
Testun Cymraeg & Saesneg
£6.95
Solo exhibition at Oriel Davies Gallery, Newtown
An introduction to the exhibition by Oriel Davies:

'That morning he watched the dawn' reflects Evans’ personal experiences while exploring broader social and political shifts in rural Wales. Much of his practice has focused on his ‘migration’ from an upbringing in rural Ceredigion to the Welsh capital Cardiff. The work utilises found and specifically produced and often highly crafted objects and images.

Oriel Davies Gallery proudly presents this first major show of newly commissioned work by Welsh artist Carwyn Evans. The exhibition brings together sculpture, drawing and lens based works to reveal his innovative articulation of ideas.

The artist skilfully uses a minimal sculptural approach throughout his practice, working with both existing and specifically produced (and often highly crafted) objects and images to reference personal experience and understanding, while at the same time examining broader social political changes in rural Wales.

Human migration is commonplace across the globe but has always had a presence throughout history. People have moved from their homelands (villages, towns, cities, or countries) to follow a desire or a necessity in securing work to support themselves, their families or communities. This results in permanent shifts in the cultural makeup and identity of countries, cities, towns and rural communities. Much of Evans’ practice has focused on his transition from an upbringing in rural Ceredigion to the Welsh capital, Cardiff in order to pursue his artistic career. That morning he watched the dawn builds on that examination, reflecting the impact of his leaving, the subsequent void left behind (both physical and cultural), and the consequence of change. At the same time, the show encompasses work which gives voice to individuals who have recently relocated to the artist’s homeland, allowing space for alternative perspective.

A fully illustrated catalogue with essays by artist and curator, Louise Short and writer Mike Parker accompanies the exhibition.

180 x 240cm. 52 pages. Paperback
ISBN 978 1 870797 50 7
Published by Oriel Davies Gallery
Welsh & English text
£6.95